Awdures gweithiau erotig o Ffrainc oedd Anaïs Nin (21 Chwefror 1903 - 14 Ionawr 1977) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hunangofiannydd, dyd
| Anaïs Nin | |
|---|---|
| Ganwyd | Ángela Anaïs Juana Antolina Rosa Edelmira Nin Culmell 21 Chwefror 1903 Neuilly-sur-Seine |
| Bu farw | 14 Ionawr 1977 Los Angeles |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, hunangofiannydd, dyddiadurwr, sgriptiwr, nofelydd, dawnsiwr |
| Adnabyddus am | Delta of Venus |
| Tad | Joaquín Nin |
| Mam | Rosa Culmell Vaurigaud |
| Priod | Hugh Parker Guiler, Rupert Pole |
| Gwobr/au | doethuriaeth er anrhydedd, Cwpan Arian Merch y Flwyddyn y Los Angeles Times, Q137782045 |
| llofnod | |
Awdures gweithiau erotig o Ffrainc oedd Anaïs Nin (21 Chwefror 1903 - 14 Ionawr 1977) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hunangofiannydd, dyddiadurwr, awdur storiau byrion a sgriptiwr.
Ei henw llaw oedd Angela Anaïs Juana Antolina Rosa Edelmira Nin y Culmell ac fe'i ganed yn Neuilly-sur-Seine, maestref ar ochr gorllewinol Paris; bu farw yn Los Angeles o ganser ac fe'i claddwyd yn y môr. [1][2][3][4][5][6]
Bu'n briod i Hugh Parker Guiler ac yna i Rupert Pole.
Yn un-ar-ddeg oed, dechreuodd ysgrifennu dyddiaduron cynhwysfawr, a pharhaodd i wneud hyn drwy gydol ei bywyd. Mae ei dyddiaduron, y cyhoeddwyd llawer ohonynt yn ystod ei hoes, yn manylu ar ei meddyliau a'i theimladau preifat. Maent hefyd yn disgrifio ei phriodas â Hugh Parker Guiler ac yna priodi Rupert Pole, yn ogystal â'i affêrs niferus, gan gynnwys y rhai gyda'r seicoanalydd Otto Rank a'r awdur Henry Miller. Dylanwadodd y ddau yma ar Nin yn fawr iawn. [7]
O Ciwba y daeth ei rhieni i Ffrainc; roedd Nin yn ferch i'r cyfansoddwr Joaquín Nin a Rosa Culmell, canwr clasurol o Gatalwnia.[8] Treuliodd Nin ei blynyddoedd cynnar yn Barcelona (Catalwnia) a Ciwba, tua 16 mlynedd ym Mharis (1924–1940), a hanner arall ei bywyd yn Unol Daleithiau America, lle daeth yn awdur cydnabyddiedig.[9] Roedd tad-cu ei thad wedi ffoi o Ffrainc yn ystod y Chwyldro, gan fynd yn gyntaf i Saint-Domingue, yna New Orleans, ac yn olaf i Ciwba lle helpodd i adeiladu rheilffordd gyntaf y wlad honno.[10]
Gwahanodd ei rhieni pan oedd hi'n ddwy oed; yna symudodd ei mam Anaïs a'i dau frawd, Thorvald Nin a Joaquín Nin-Culmell, i Barcelona, ac yna i Ddinas Efrog Newydd, lle mynychodd yr ysgol uwchradd. Gadawodd Nin yr ysgol uwchradd ym 1919 pan oedd yn un-deg-chwech oed, ac ar yr un pryd, gadawodd yr Eglwys Gatholig am byth. Yn ôl ei dyddiaduron (Cyfrol Un, 1931–1934), dechreuodd weithio fel model i artist ychydig yn ddiweddarach.[11][12]

Ar 3 Mawrth 1923, yn Havana, Ciwba, priododd Nin ei gŵr cyntaf, Hugh Parker Guiler (1898–1985), bancwr ac artist, a adwaenid yn ddiweddarach fel "Ian Hugo" pan ddaeth yn wneuthurwr ffilmiau arbrofol ar ddiwedd y 1940au. Symudodd y cwpl i Baris y flwyddyn ganlynol, lle dilynodd Guiler yrfa mewn bancio a dechreuodd Nin ddilyn ei diddordeb mewn ysgrifennu ac fel dawnsiwr fflamenco. Roedd ei gwaith cyhoeddedig cyntaf yn werthusiad beirniadol o D. H. Lawrence o'r enw D. H. Lawrence: Astudiaeth Amhroffesiynol, a sgwennodd mewn un-deg-chwe diwrnod diwrnod.[8]
Cyhoeddwyd llawer o'i gwaith, gan gynnwys y casgliadau erotig Delta o Venus a Little Birds, ar ôl iddi farw, pan ailgododd diddordeb yn ei gwaith.
Mae Nin yn cael ei chanmol gan lawer o feirniaid fel un o ysgrifenwyr gorau erotica benywaidd. Roedd yn un o'r merched cyntaf y gwyddys i wneud hynny, ac yn sicr y fenyw flaenllaw gyntaf yn y Gorllewin modern y gwyddys ei bod yn ysgrifennu erotica. Cyn hynny, roedd erotica wedi'i ysgrifennu gan fenywod yn brin, gydag ychydig o eithriadau nodedig, fel gwaith Kate Chopin. Yn aml, soniai Nin am awduron fel Djuna Barnes a D. H. Lawrence fel ysbrydoliaeth, ac mae'n dweud yng Nghyfrol Un o'i dyddiaduron iddi gael ei hysbrydoli gan Marcel Proust, André Gide, Jean Cocteau, Paul Valéry, ac Arthur Rimbaud.[13][14]
Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd.
|dead-url= ignored (help)
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.