Anadlu (neu mewn bioleg: resbiradu) ydy'r broses sy'n tynnu aer i mewn ag allan o'r ysgyfaint.[1] Mae organebau fel mamaliaid, adar ac ymlusgiaid yn tynnu ocsigen i'w cyrff a gelwir y broses hon yn resbiradu erobig. Dyma un o'r prosesau sy'n gwneud y gwaith hwn ond ceir eraill gan gynnwys proses sy'n ymwneud â chylchrediad y gwaed.[2] Defnyddir yr ocsigen ar ffurf metabolig i greu moleciwlau sy'n gyfoethog mewn ynni e.e. glwcos. Mae anadlu hefyd yn cael gwared â charbon deuocsid allan o'r corff.
Mae'r system anadlu yn cynnwys nifer o organau yn y thoracs. Mae aer yn cael ei dynnu i mewn i'r ysgyfaint drwy y tracea (hefyd pibell wynt). Bydd y tracea yn cael ei rhannu i mewn i ddwy diwb tebyg eraill a gelwir yn bronci. Mae rhain yn arwain i'r ysgyfaint. Tu fewn i'r ysgyfaint bydd yn cael ei rhannu i mwy o bibellau llai sef bronciolynnau. Ar diwedd pob bronciol bydd sach aer neu alfeolws. Yn yr alfeolws bydd ocsigen yn symud i mewn i'r gwaed ac mae carbon deuocsid yn cael ei ysgarthu. Gelwir hyn yn gyfnewid nwyon.
Ceir cyfnewid nwyon (ocsigen a charbon deuocsid) oddi fewn i'r alfeoli. Mae'r nwyon yn ymdoddi i'r gwaed sydd yng nghapilarïau'r ysgyfaint ac mae'r galon yn eu pwmpio o amgylch y corff. Yr enw meddygol am anadlu naturiol ydy "eupnea" neu "anadlu rhwydd"[3]
Sgil effaith anadlu yw colli dŵr o'r corff. Mae canran lleithder yr hyn sy'n cael ei anadlu allan yn 100%.