Cafodd Blackwell ei geni yn East Orange, New Jersey i Henry Browne Blackwell a Lucy Stone; roedd y ddau ohonynt yn arweinwyr yn y mudiad dros etholfraint (yr hawl i fenywod bleidleisio) ac ymhlith y rhai a sefydlodd Cymdeithas Etholfraint Menywod America (American Woman Suffrage Association; AWSA). Roedd Alice Blackwell yn i nith Elizabeth Blackwell, meddyg benywaidd cyntaf America.[7]
Cyflwynodd ei mam Susan B Anthony i fudiad hawliau menywod America, a'i mam hefyd oedd y fenyw gyntaf i ennill gradd prifysgol yn Massachusetts, y cyntaf i gadw ei henw ar ôl priodi, a'r cyntaf i siarad am hawliau menywod yn llawn amser.[8]
Addysgwyd Alice Stone Blackwell yn Ysgol Ramadeg Harris yn Dorchester, Ysgol Chauncy yn Boston a'r Abbot Academy yn Andover. Ym Mhrifysgol Boston University, hi oedd llywydd ei dosbarth, a graddiodd yno yn 1881, yn 24 oed.[9]
Gwaith
Ar ôl graddio o Brifysgol Boston, dechreuodd Alice weithio i Woman's Journal, papur a ddechreuwyd gan ei rhieni. Erbyn 1884, roedd ei henw hi ochr yn ochr â'i rhieni fel perchnogion y papur. Ar ôl marwolaeth ei mam yn 1893, cymerodd Alice y cyfrifoldeb llwyr am ei olygu.[10]
Ym 1890, helpodd i gymodi dwy gymdeithas, gan eu huno: Cymdeithas Merched Menywod America (the American Woman Suffrage Association) a'r Gymdeithas Genedlaethol Etholfraint y Menywod (National Woman Suffrage Association), dau sefydliad a oedd yn cystadlu am aelodau. Bedyddiwyd y corff newydd yn "Gymdeithas Genedlaethol Menywod America" (National American Woman Suffrage Association; NAWSA). Asgwrn y gynnen rhwng y ddau fudiad, cyn hynny, oedd: y graddau y dylai etholfraint merched gael ei chlymu i etholfraint dynion Affro-Americanaidd.
Aelodaeth
Bu'n aelod o Gymdeithas Phi Beta Kappa am rai blynyddoedd.[11]
Cyhoeddiadau
Growing Up in Boston's Gilded Age: The Journal of Alice Stone Blackwell, 1872–1874
Lucy Stone: Pioneer of Woman's Rights (cyhoeddwyd 1930, ailgyhoeddwyd 1971)
Some Spanish-American Poets cyfieithwyd gan Alice Stone Blackwell (cyhoeddwyd 1929 gan D. Appleton & Co.)
Armenian Poems translated by Alice Stone Blackwell (cyfrol 1., 1896; ail gyfrol., 1917). OCLC4561287.