Alexios I Komnenos |
---|
|
Ganwyd | 1048 Caergystennin |
---|
Bu farw | 15 Awst 1118 o clefyd Caergystennin |
---|
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
---|
Galwedigaeth | ymerawdwr |
---|
Swydd | Ymerawdwr Bysantaidd |
---|
Tad | John Komnenos |
---|
Mam | Anna Dalassene |
---|
Priod | Irene Doukaina |
---|
Plant | Anna Komnene, Maria Komnene, Ioan II Komnenos, Andronikos Komnenos, Isaac Komnenos, Eudokia Komnene, Theodora Komnene Angelina, Barbara Komnena |
---|
Llinach | Komnenos |
---|
Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 1081 a 1118 oedd Alexios I Komnenos neu Alexius I Comnenus, Groeg: Αλέξιος Α' Κομνηνός, Alexios I Komnēnos (1048 - 15 Awst, 1118).
Roedd Alexios yn fab i Ioan Komnenos ac Anna Dalassena, ac yn nai i'r ymerawdwr Isaac I Komnenos. Pan adawodd Isaac yr orsedd yn 1059, gwrthododd tad Alexios, Ioan Komnenos, yr orsedd, felly dilynwyd ef gan bedwar ymerawdwr arall rhwng 1059 a 1081. Gwasanaethodd Alexios yn y fyddin dan yr ymerodron Romanos IV Diogenes, Mihangel VII Doukas Parapinakes a Nikephoros III Botaneiates. Llwyddodd Alexios i orchfygu gwrthryfel milwyr hur yn Asia Leiaf yn 1074 ac yn 1078 apwyntiodd Nikephoros III ef yn arweinydd y byddinoedd yn y gorllewin.
Tua 1081, ymosododd y Normaniaid dan Robert Guiscard ar ardal Dyrrhachium. Pan gynullwyd y fyddin i'w gwrthwynebu, perswadiwyd Alexios i ymuno â chynllwyn yn erbyn Nikephoros III, a chyhoeddwyd ef yn ymerawdwr gan ei filwyr. Cipiodd y fyddin ddinas Caergystennin ar 1 Ebrill 1081, gan orfodi Nikephoros III i ymddeol i fynachlog.
Bu raid i Alexios ymladd yn barhaus yn ystod ei deyrnasiad o 37 mlynedd. Cipiwyd Dyrrhachium gan Robert Guiscard a'i fab Bohemund). Llwyddodd Alexios i oresgyn y perygl, yn rhannol trwy roi 360,000 o ddarnau aur i Harri IV, yr Ymerawdwr Glan Rhufeinig, i ymosos ar y Normaniaid yn yr Eidal.
Bu Alexios hefyd yn ymladd yn Thrace, yn erbyn gwrthryfel y sectau Bogomil a'r Pauliciaid, a bu ymosodiadau gan y Pecheneg. Gyda chymorth y Cumaniaid llwyddodd Alexios i orchfygu'r Pechenegs yn Levounion yn Thrace yn 1091.
Gyrrodd Alexios lysgenhadon at y Pab Urban II i ofyn am gymorth yn erbyn y Twrciaid. Ei fwriad oedd cael milwyr hur o'r gorllewin, ond yn ddiweddarach y flwyddyn honno, pregethodd y Pab yr angen am Groesgad, a dechreuodd y Groesgad Gyntaf. Pan gyrhaeddodd prof fyddin y croesgadwyr i Gaergystennin, llwyddodd Alexios i'w defnyddio i ennill nifer o diriogaethau yn ôl. Ildiodd Nicaea i'r ymerawdwr yn 1097, ac wedi buddugoliaeth ym Mrwydr Dorylaeum, adfeddiannodd ran helaeth o orllewin Asia Leiaf.
Ysgrifennodd merch Alexios, Anna Comnena, ei fywgraffiad. Ystyrir yr Alexiad yn un o gampweithiau llenyddiaeth Roeg yr Oesoedd Canol yn ogystal â bod yn ffynhonnell bwysig am hanes Caergystennin yn amser Alexios a'i ferch.
Llyfryddiaeth
- Anna Comnena: The Alexiad of Anna Comnena, cyf. E.R.A. Sewter (Penguin, Llundain, 1969)