Ailgylchu yw'r term am ail-ddefnyddio deunydd crai pethau sy'n cael eu taflu i ffwrdd fel gwastraff. Caiff y deunydd ei ailbrosesu er mwyn creu deunydd newydd er mwyn atal gwastraff deunydd defnyddiol, lleihau'r angen am ddeunydd crai newydd, lleihau defnydd egni, lleihau llygredd yn yr awyr a geir o losgi gwastraff, a lleihau llygred dŵr sy'n dod o domenni gwastraff. Mae hefyd yn lleihau'r gost o gymharu â ffurfiau "confensiynol" o waredu â gwastraff, ac yn creu llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr i gymharu â phrosesu deunydd crai newydd.[1] Mae ailgylchu yn rhan allweddol o'r strategaeth gyfoes o reoli gwastraff, ac yn drydedd elfen yn yr hierarchaeth gwastraff sef: Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu.
Hyd ail hanner yr 20g, roedd y rhan fwyaf o'r hyn a deflid i ffwrdd fel sbwriel yn cael rhoi mewn tomennydd sbwriel. Erbyn hyn, mae cyfran ohono yn cael ei ail-ddefnyddio. Gellir ail-ddefnyddio rhai eitemau fel y maent, neu gellir ail-ddefnyddio rhannau ohonynt. Weithiau, mae'r sbwriel yn cael ei droi yn ddefnydd arall. Caiff deunyddiau ar gyfer eu hailgylchu eu gadael mewn canolfan ailgylchu megis banciau ailgylchu mewn archfarchnadoedd neu mewn gorsafoedd trosglwyddo gwastraff a gaiff eu rhedeg gan awdurdodau lleol, neu eu casglu o'r pafin a'u cludo i ganolfan sortio lle caiff y gwahanol ddeunyddiau eu gwahanu, eu glanhau a'u hanfon i gael eu prosesu ar gyfer creu deunydd newydd.
Tra bod ailgylchu yn golygu bod llai o wastraff yn cael ei gladdu mewn tomenni ailgylchu ac yn arbed defnyddio deunydd crai ychwanegol i greu cynnyrch o'r newydd, mae'r broses o ailgylchu ei hun yn gallu defnyddio llawer o ynni. Mewn rhai achosion felly, gellir dadlau bod ailgylchu sbwriel yn defnyddio mwy o ynni na chreu nwyddau o'r newydd.
Hanes
Ailgylchu cynnar
Mae ailgylchu wedi bod yn weithgaredd cyffredin am ran helaeth o hanes dynoliaeth, gyda chofnodion yn cyfeirio ato cyn belled yn ôl a Plato yn 400 CC. Yn ystod cyfnodau pan oedd deunyddiau'n brin, mae astudiaethau archeolegol o domenni gwastraff hynafol yn dangos llawer llai o wastraff na ddisgwylid (megis lludw, offer wedi torri a chrochenwaith), gan gynnig y bu llawer iawn yn cael ei ailgylchu gan nad oedd deunyddiau crai newydd yn gyffredin.[2]
Yn y cyfnod cyn-ddiwydiannol, mae tystiolaeth yn Ewrop i efydd a metelau eraill sgrap gael eu casglu a'u toddi ar gyfer eu haildefnyddio yn ddi-ddiwedd.[3] Ym Mhrydain, casglwyd llwch a lludo o ddarnau pren a glo gan ddynion lludw a chafodd ei "lawr-gylchu" fel deunydd a ddefnyddiwyd i greu briciau. Y prif ysgogiad ar gyfer y math hwn o ailgylchu oedd y fantais economaidd o gael gafael ar ddeunydd wedi ei ailgylchu yn hytrach na thalu am ddeunydd crai newydd, yn ogystal â'r ffaith na fu casgliadau gwastraff ledled yr ardaloedd poblog.[2] Ym 1813, datblygodd Benjamin Law broses o droi carpiau yn "frethyn eilban" a "gwlân mungo", yn Batley, Swydd Efrog. Roedd y defnydd hwn yn cyfuno ffibrau wedi eu hailgylchu gyda gwlan newydd. Parhaodd diwydiant brethyn eilban Gorllewin Swydd Efrog mewn trefi megis Batley a Dewsbury, o'r ddechrau'r 19g tan y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ailgylchu yng Nghymru
Yn 2017 Cymru oedd y 4edd wlad drwy'r byd am ailgylchu gwastraff. Yr Almaen oedd yn gyntaf, yna Awstria a De Corea a Chymru'n bedwaredd.[4]
Rhedir cynlluniau ailgylchu Cymru gan Lywodraeth Leol, gyda'r drefn yn wahanol ym mhob sir. Cefnogir hyn gan grantiau achlysurol gan Lywodraeth y Cynulliad. Er enghraifft, derbyniodd cyngor Merthyr Tudful grant o £100,000 yn 2009 er mwyn annog trigolion y sir i ailgylchu, a galluogi'r cyngor i gasglu deunydd o nifer fwy o gartrefi.[5]