Afon fawr 480 km o hyd sy'n llifo trwy Swrinam yn Ne America yw Afon Swrinam. Gorwedd ei tharddleoedd yn Ucheldiroedd Guiana ar y ffin rhwng Mynyddoedd Wilhelmina a Mynyddoedd Eilerts de Haan (lle mae'n cael ei galw y Gran Rio). Llufa'r afon trwy Brokopondo, Berg en Dal, Klaaskreek a Nieuw-Lombé, Jodensavanne, Carolina, Ornamibo a Domburg, cyn cyrraedd y brifddinas Paramaribo a thref Meerzorg. yn Nieuw-Amsterdam mae Afon Commewijne yn ymuno ac yn fuan ar ôl hynny mae'n llifo i'r Cefnfor Iwerydd.
Mae'r afon yn ddyfrffordd bwysig sy'n galluogi llongau i allforio mwynau fel alwminiwm a hefyd dod â mewnforion i mewn i'r wlad.