Afon yn ne-ddwyrain Ffrainc sy'n llifo i mewn i afon Rhône yw afon Isère. Mae'n 286 km o hyd, ac yn tarddu yn yr Alpau heb fod ymhell o'r ffin â'r Eidal, gerllaw canolfan sgïo Val d'Isère. Llifa i mewn i afon Rhône yn Pont-de-l'Isère, ychydig i'r gogledd o Valence.