Afon 430 km o hyd yn nwyrain Ffrainc a gorllewin y Swistir, sy'n un o ledneintiau Afon Saône, yw Afon Doubs. Mae'n tarddu ger Mouthe yng ngorllewin mynyddoedd y Jura. Llifa i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i ddechrau gan ffurfio'r ffin rhwng y Ffrainc a'r Swistir am 40 km. Ger Montbéliard mae'n troi i gyfeiriad y de-orllewin ac yn parhau felly nes iddi lifo i Afon Saône yn Verdun-sur-le-Doubs, tua 20 km i'r gogledd-ddwyrain o Chalon-sur-Saône.