Adam Smith Ganwyd Mehefin 1723 Kirkcaldy Bedyddiwyd 5 Mehefin 1723 (yn y Calendr Iwliaidd ) Bu farw 17 Gorffennaf 1790 Caeredin Dinasyddiaeth Teyrnas Prydain Fawr Addysg Legum Doctor Alma mater ymgynghorydd y doethor Galwedigaeth economegydd , awdur ffeithiol, athronydd, llenor , academydd, moesolwr Ffrengig, cyhoeddwr Cyflogwr Adnabyddus am The Theory of Moral Sentiments, The Wealth of Nations Prif ddylanwad François Quesnay Tad Adam Smith Mam Margaret Douglas Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA), Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin llofnod
Athronydd o Albanwr oedd Adam Smith (16 Mehefin 1723 – 17 Gorffennaf 1790 ). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur dau lyfr, The Theory of Moral Sentiments (1759), a An Inquiry into the Nature and Causes of the Wealth of Nations (1776). Roedd yn un o sylfaenwyr astudiaeth economeg fel pwnc academaidd.
Ganed ef yn Kirkcaldy , Fife , Yr Alban ; nid oes sicrwydd am ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ef ar 5 Mehefin 1723. Aeth i Brifysgol Glasgow yn 14 oed, lle astudiodd athroniaeth foesol. Yn 1740 aeth i Goleg Balliol, Rhydychen .
Yn 1748 dechreuodd roi darlithoedd cyhoeddus yng Nghaeredin , a daeth i adnabod David Hume . Yn 1751 daeth yn Athro rhesymeg ym Mhrifysgol Glasgow. Cyhoeddodd The Theory of Moral Sentiments yn 1759. Ymddangosodd The Wealth of Nations yn 1776, a gwnaeth ei awdur yn enwog.
Ystyrir ef yn un o brif gefnogwyr y syniad o Laissez-faire a'r farchnad rydd; gyda'r egwyddor fod system ecomomaidd lle mae pawb yn dilyn ei les ei hun yn arwain at fwy o gyfoeth i bawb.
Prif weithiau
Inquiry into the nature and causes of the wealth of nations , 1922