Brenin Gwlad Iorddonen yw Abdullah II bin Al-Hussein (Arabeg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value)., al-Malik ʿAbdullāh aṯ-ṯānī bin al-Ḥusayn; ganwyd 30 Ionawr1962). Daeth i'r orsedd ar 7 Chwefror1999 wedi marwolaeth ei dad, y Brenin Hussein. Mae'n perthyn i'r teulu Hashemite, teulu sydd wedi llywodraethu Gwlad Iorddonen ers 1921, ac sy'n hannu o linach merch Muhammad, sef Fatimah.[1][2][3]
Ganed Abdullah yn Amman yn blentyn cyntaf i'r Brenin Hussein a'i ail wraig, y Dywysoges Muna a aned yn Chelmondiston, Suffolk, Lloegr. Fel mab hynaf y Brenin, roedd Abdullah yn etifedd amlwg nes i Hussein drosglwyddo'r teitl i'r tywysog Hassan, ewythr Abdullah, ym 1965. Dechreuodd Abdullah ei addysg yn Amman, gan barhau â'i addysg dramor. Dechreuodd ei yrfa filwrol yn 1980 fel swyddog hyfforddi yn Lluoedd Arfog yr Iorddonen, gan gymryd cyfrifoldeb o Lloedd Arbennig y wlad yn 1994, a daeth yn uwchfrigadydd (major general) yn 1998. Ym 1993 priododd Rania Al-Yassin (o dras Balesteinaidd), ac mae ganddynt bedwar o blant: y Tywysog Hussein, y Dywysoges Iman, y Dywysoges Salma a'r Tywysog Hashem. Ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth yn 1999, enwodd Abdullah yn etifedd y goron, a dilynodd Abdullah ei dad.[4][5][6]
↑Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, WikidataQ36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
↑"Jordan profile – Leaders". BBC. 3 Chwefror 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)