Tyfodd yr abaty ar safle cell Sant Gall, sant Gwyddelig a ymsefydlodd yma tua 613. Penodiodd Siarl Martel ŵr o'r enw Othmar fel ceidwad creiriau Sant Gall, a sefydlodd Othmar ysgolion adnabyddus yma. Dan yr abad Waldo o Reichenau (740-814), copïwyd nifer fawr o lawysgrifau, a datblygodd llyfrgell a ystyrir yn un o'r llyfrgelloedd canoloesol pwysicaf yn Ewrop.
Roedd yr abaty yn gnewyllyn dinas-wladwriaeth grefyddol fwyaf pwerus y Swistir, gyda thiriogaethau eang. Yn 1798, seciwlareiddiwyd yr abaty a gyrrwyd y mynachod i abatai eraill.
Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!