Côd gwlad parth lefel uchaf swyddogol yr Undeb Sofietaidd yw .su (talfyriad o Soviet Union). Cafodd ei arnodi ar 19 Medi 1990. Er i'r Undeb Sofietaidd gael ei ddiddymu ar 21 Rhagfyr 1991, mae'r côd parth yn dal i gael ei ddefnyddio gan sawl cwmni a sefydliad. Mae'n cael ei weinyddu gan RIPN, sef Sefydliad dros Ddatblygu Rhwydweithiau Cyhoeddus Rwsia (Rwseg: Российский научно-исследовательский институт развития общественных сетей - РосНИИРОС).
Gweler hefyd